Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (140)v2 |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud) |
2 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (15 munud) |
3 Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud) |
4 Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ynghylch Meysydd Carafanau Gwyliau (Cymru) (Darren Millar) (60 munud) NNDM5258 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91: Yn cytuno y caiff Darren Millar gyflwyno Bil er mwyn gweithredu'r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 18 Ebrill 2013 o dan Reol Sefydlog 26.90. Mae’r wybodaeth cyn y balot ar gael drwy fynd i: http://www.cynulliadcymru.org/cy/bus-home/bus-legislation/bill_ballots/bill-050.htm |
5 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM5268 William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod yr angen am strategaeth hedfan gynhwysfawr a chydlynol yng Nghymru. 2. Yn cydnabod ymhellach gynigion Ceidwadwyr Cymru ar gyfer Maes Awyr Caerdydd, a amlinellir yn y cyhoeddiad, ‘Glasbrint ar gyfer Maes Awyr Caerdydd’. Mae Glasbrint ar gyfer Maes Awyr Caerdydd ar gael drwy'r linc a ganlyn:
https://www.welshconservatives.com/sites/www.welshconservatives.com/files/cardiff_airport_blueprint_cymraeg.pdf Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn cefnogi'r datblygiadau i Faes Awyr Caerdydd sydd wedi'u hwyluso gan y sector cyhoeddus. [Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi Strategaeth Hedfan i Gymru erbyn diwedd 2013, gan gynnwys amserlen ar gyfer gweithredu. Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am ddatganoli cyfraddau'r Doll Teithwyr Awyr ar gyfer teithiau pell i Gymru, fel yr argymhellwyd yn rhan 1 Comisiwn Silk, a bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynigion ar gyfer cyfraddau Toll Teithwyr Awyr i Gymru er mwyn ategu strategaeth hedfan nesaf Cymru. Gellir gweld adroddiad Rhan I Comisiwn Silk drwy ddilyn y linc ganlynol: http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/cy Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i esbonio rôl a threfn lywodraethu Tasglu Maes Awyr Caerdydd yng ngoleuni’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi prynu Maes Awyr Caerdydd yn ddiweddar. Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y gwasanaeth bws cyflym, hirddisgwyliedig, o Gaerdydd i Faes Awyr Caerdydd, a addawyd yn gyntaf gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2009, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddatgan ei hymrwymiad i gyflwyno’r gwasanaeth hwn ym mis Awst 2013. |
6 Dadl Plaid Cymru (60 munud) NDM5269 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi rôl allweddol y system gynllunio o ran cyfrannu tuag at gynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol; a 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r system gynllunio fel ei bod yn adlewyrchu'n well egwyddorion datblygu cynaliadwy, yn arbennig: a) bod Cynlluniau Datblygu Lleol yn adlewyrchu anghenion tai lleol yn well; b) bod yr iaith Gymraeg yn dod yn ystyriaeth gynllunio fwy ystyrlon; ac
c) bod
y system gynllunio'n hwyluso twf gwyrdd yn well. Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu at oedi Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno Bil Cynllunio i Gymru. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn cydnabod y gall y cyfrifoldeb ar y cyd am bolisïau cynllunio, tai ac adfywio rhwng y Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Lleol achosi llawer o densiwn a’i gwneud yn anodd i ddatblygu polisïau cynllunio ac adfywio cydlynol mewn ardaloedd gwledig. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 2a): i. drwy ddisodli’r targedau adeiladu tai a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ag asesiad o anghenion tai lleol; a ii. drwy gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y cartrefi i ddiwallu anghenion poblogaeth gynyddol a phoblogaeth sy’n heneiddio; Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys is-bwynt 2b) newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Rhaid i awdurdodau lleol gymryd rhan mewn ymgynghoriadau ystyrlon sy’n galluogi cymunedau i gael eu grymuso er mwyn llunio eu dyfodol. Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys is-bwynt 2b) newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn cyflwyno canllawiau cynllunio ychwanegol ar gyfer gwaith datblygu ac adnewyddu mewn ardaloedd cadwraeth. Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod rôl bwysig cynghorau tref a chymuned fel ymgyngoreion statudol yn y broses gynllunio ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i asesu ffyrdd o gryfhau’r rôl hon, er mwyn cryfhau llais cynghorau tref a chymuned. Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu system i adolygu Nodiadau Cyngor Technegol yn gyfnodol, i sicrhau eu bod yn adlewyrchu’r datblygiadau diweddaraf mewn polisïau a deddfwriaeth a’r datblygiadau technolegol diweddaraf. |
Cyfnod Pleidleisio |
7 Dadl Fer (30 munud) NDM5267 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A yw'r Parth Clustogi glo brig yn addas at y diben? Dadl sy'n trafod y problemau sydd wedi codi ers i'r parth clustogi gael ei gyflwyno yn MTAN2 yn 2009, gan drafod a ydyw mewn gwirionedd wedi cyflawni diogelwch i gymunedau sy'n byw gyda chloddio glo brig. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 25 Mehefin 2013